Русские видео

Сейчас в тренде

Иностранные видео


Скачать с ютуб Elystan Morgan Fideo 14 - Saunders Lewis, Plaid Cymru a Gwynfor Evans в хорошем качестве

Elystan Morgan Fideo 14 - Saunders Lewis, Plaid Cymru a Gwynfor Evans 7 лет назад


Если кнопки скачивания не загрузились НАЖМИТЕ ЗДЕСЬ или обновите страницу
Если возникают проблемы со скачиванием, пожалуйста напишите в поддержку по адресу внизу страницы.
Спасибо за использование сервиса savevideohd.ru



Elystan Morgan Fideo 14 - Saunders Lewis, Plaid Cymru a Gwynfor Evans

Yr olaf yn y gyfres – mae’n ddiddorol iawn. Elystan yn trafod nodweddion gwahanol Saunders Lewis a Gwynfor Evans. Amlinellu gelyniaeth ddofn Gwynfor tuag at y Blaid Lafur a’i Llywodraeth. Geiriau Gwynfor i Elystan pan ddywedodd wrtho ei fod yn ymuno â’r Blaid Lafur - -'Plaid Bessie Braddock'. Yr anawsterau a wynebodd Gwynfor du fewn Plaid Cymru oddiwrth yr astell chwith y blaid a rhai ohonynt ar y chwith eithafol. Yn y blynyddoedd cyn yr is etholiad yng Nghaerfyrddin yn 1966 ‘roedd Gwynfor wedi gwynebu pwysau sylweddol o fewn y blaid dros ei methiant i sicrhau cynnydd etholiadol ac yna yn enwedig ar ôl y frwydr a gollwyd dros Dryweryn. Ond yn ôl pob golwg, ymyrrodd tynged! I ddechrau pan ddewiswyd Lady Megan Lloyd George gan y Blaid Lafur yn hytrach na gwr ifanc John Morris (er dim ond o un bleidlais) yn 1957; yna'r penderfyniad a wnaethpwyd gan y Blaid Lafur lleol i beidio â dewis rhywun ymgeisydd newydd i ymladd Etholiad Cyffredinol Mawrth 1966, er gwaethaf y ffaith bod Lady Megan yn angheuol wael ac yna yn olaf dewis y gogleddwr Gwilym Prys Davies i ymladd yr isetholiad yn hytrach na’r person dawnus lleol o Gynwyl Elfed, Denzil Davies. Gwynoro yn disgrifio sut oedd pobl yn Gymoedd Aman a Gwendraeth yn dweud wrtho wrth ymgyrchu yn ystod yr isetholiad sut maent nad oedd yn 'deall' Gwilym Prys yn siarad gydag acen ddofn ei Gogledd Cymru. Yna Elystan yn hel stori debyg pan roedd yn ymgyrchu yn Ynys Môn a gyda Cledwyn Hughes yn Llangefni 1979.

Comments